Gŵyl Gwenllian

Ar Fehefin 12fed byddwn yn dathlu Gwenllian - merch Llywelyn (tywysog olaf Cymru). Cafodd ei herwgipio yn faban a’i magu mewn lleiandy yn Sempringham, Lincolnshire.

Gŵyl Gwenllian

Mae cyfres o weithgareddau cymunedol yn canolbwyntio ar ddathlu merched y Carneddau yn cael eu trefnu i goffau’r Dywysoges Gymreig ym Methesda yn flynyddol.

Eleni, mi fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng dydd Gwener 12fed o Fehefin a dydd Sul 14eg o Fehefin. Gweler rhaglen lawn y penwythnos isod. Eleni mae Partneriaeth Ogwen yn falch iawn o allu cydweithio gyda'r partneriaid canlynol er mwyn gwneud y penwythnos yn bosib: GwyrddNi, Menter Iaith Gwynedd, Neuadd Ogwen ac Eglwysi Bro Ogwen.


Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt Gwyl Gwenllian
Cyfeiriad Canolfan Cefnfaes, Mostyn Terrace, Bethesda, Bangor LL57 3AD
E-bost E-bost
FaceBook Gweld
Instagram Gweld
Lawrlwythiadau

Rhaglen Gŵyl Gwenllian 2026 [maint: 3.3 MB]


Map Lleoliad

Partneriaeth OgwenCyfenierERDFCyngor Gwynedd

Tudalen wedi ei diweddaru: 04/06/26

© 2026 Partneriaeth Ogwen

Processwire Wedi'i bweru gan ProcessWire - Dab Design